PAC(4) 15-13 (p1)

 

 

Ymateb i Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Gyllid Iechyd

 

 

Rydym yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad ac yn cynnig yr ymateb canlynol i’r 12 argymhelliad a geir ynddo.

 

 

Argymhelliad 1. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei fformiwlâu ariannu ar gyfer cefnogi gwahanol gyrff iechyd gan sicrhau ei bod yn rhoi'r pwys priodol ar ddemograffeg, daearyddiaeth ranbarthol a ffactorau perthnasol eraill, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol, ac yn eu hystyried.

 

Ymateb:- Derbyn

 

O dan y trefniadau blaenorol, o 22 Bwrdd Iechyd Lleol, aeth Llywodraeth Cymru ar drywydd gweithredu fformiwla anghenion uniongyrchol “Townsend” trwy gymhwyso twf gwahaniaethol yn ystod y cyfnod 2003/04 i 2007/08.  Ers ffurfio’r 7 Bwrdd Iechyd Lleol integredig yn 2009 cyfyngedig fu’r cynnydd gan nad yw’r fformiwla wedi cael ei ddiweddaru yng ngoleuni’r heriau ariannol sylweddol rydym yn eu hwynebu.  

 

Mae gwaith i gyflwyno Trefn Ariannol newydd, fel y’i nodir yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’, yn cynnwys Adolygiad o Ddyraniad Adnoddau fel un o’r prosiectau allweddol i gefnogi’r thema drosfwaol ar Gynllunio Tymor Canolig Integredig. Bydd y prosiect yn cynnwys:

 

o   Datblygu fformiwla dyrannu adnoddau y gellir ei gymhwyso ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol ac i gefnogi Byrddau Iechyd Lleol, ar lefel yr ardal leol

 

o   Sicrhau bod y pwysoliad anghenion yn adlewyrchu ffactorau perthnasol megis demograffeg, anghydraddoldebau, daearyddol ac ati

 

Bydd hwn yn brosiect sylweddol fydd yn cymryd rhywfaint o amser i’w ddatblygu’n llawn, ei adolygu ac i gael ei wedd derfynol. Felly mae’n debyg y bydd cam cyntaf ei weithredu yn 2015/16 fan cynharaf. 

 

 

Argymhelliad 2. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn fwy

tryloyw ynghylch y sail resymegol dros ddyrannu gwahanol lefelau o

arian i wahanol sefydliadau iechyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan

roddir arian ychwanegol yn ystod y flwyddyn i wasanaethau iechyd.

Dylai'r fath ddyraniadau fod yn seiliedig ar achos busnes clir gan bob

un o sefydliadau'r GIG sy'n cael adnoddau.

 

Ymateb:- Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r symudiad at fwy o dryloywder ar draws pob agwedd ar ei waith rheoli ariannol a chyllidebol. Mae’r dyraniad refeniw blynyddol i Fyrddau Iechyd eisoes yn cael ei gyhoeddi, gan nodi dosraniad cyllid i bob Bwrdd a chan esbonio sail y dosraniad.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn y dylai unrhyw gyllid ychwanegol a ddarperir yn ystod y flwyddyn gael ei seilio ar dystiolaeth glir o’r angen a’i gefnogi gan gynllun clir ynglŷn â sut y caiff yr adnoddau hynny eu defnyddio. Roedd hyn yn wir yn 2012-13, yn dilyn adolygiad canol-blwyddyn manwl a chraffu manwl ar sefyllfa ariannol pob un o’r Byrddau Iechyd.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu mabwysiadu proses fwy tryloyw i ddarparu hyblygrwydd ariannol i Fyrddau Iechyd o fewn blynyddoedd ariannol a dros gylch cynllunio tair blynedd fel rhan o’r drefn ariannol newydd. Bydd cymhwyso a chymeradwyo’r ddau fath o hyblygrwydd yn dibynnu ar Fyrddau’n darparu achos busnes clir sy’n rhoi manylion y rhesymau dros ofyn am yr hyblygrwydd.

 

Ni phenderfynwyd eto ar fanylion y meini prawf a gofynion ar gyfer cael yr arian hwn, ond bydd Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i gyhoeddi’r ceisiadau am hyblygrwydd a gymeradwyir a’r proffiliau ad-dalu.

 

 

Argymhelliad 3. -Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Iechyd lunio cyllideb fantoledig lawn cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, a bod y gyllideb hon yn cael ei hategu gan gynllun cadarn a chynhwysfawr ar gyfer arbed arian a'r gweithlu, sydd wedi'i broffilio'n briodol.

 

Ymateb: - Derbyn mewn egwyddor

 

Yn y gorffennol mae wedi bod yn ofynnol i’r holl Fyrddau Iechyd gyflwyno cynlluniau ariannol i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Mawrth ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol. Mae’r cynlluniau hyn wedi cynnwys set o dablau ariannol yn dangos yn glir sut y byddid yn mantoli’r cyfrifon, gan gynnwys manylion yr arbedion i gael eu cyflawni yn ystod y flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn bod angen i’r cynlluniau hyn fod yn realistig, ymdrin â’r tymor canolig a dangos mwy o gysylltiad rhwng capasiti’r gweithlu a chynllunio gwasanaethau..

 

Ar gyfer 2013/14, mae’n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd gyflwyno ei gynllun integredig 3 blynedd cymeradwy terfynol erbyn 31ain Mawrth 2013. Mae drafftiau cynnar wedi tynnu sylw at yr anhawster mae pob Bwrdd Iechyd yn ei gael wrth gynhyrchu cynllun realistig sy’n dangos sefyllfa mantoli’r cyfrifon yn y tymor byr a’r tymor canolig.

 

Bydd Swyddogion Llywodraeth Cymru’n parhau i gydweithio’n agos â’r Byrddau Iechyd i sicrhau bod modd cyflawni’r cynlluniau a’u bod yn cael eu cefnogi gan gynllun arbedion a gweithlu cadarn sy’n ymdrin â’r cyfnod hyd 2015-16..

 

 

Argymhelliad 4. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â sefydliadau'r GIG i'w galluogi i fanteisio ar bob cyfle i sicrhau arbedion effeithlonrwydd, gan gynnwys ymarferion caffael gyda rhannau eraill o'r sector cyhoeddus gan gynnwys awdurdodau lleol, addysg, yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub.  

 

Ymateb:- Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu’r argymhelliad hwn. Ym maes caffael mae trefniadau eisoes wedi’u hen sefydlu o ran arbedion effeithlonrwydd ar y cyd ym maes caffael, trwy Gydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Caffael, a hefyd trwy gontractau ar draws y sector cyhoeddus cyfan trwy Werth Cymru. Mae egwyddor cydweithredu yn GIG Cymru’n bodoli ers blynyddoedd lawer ac mae digonedd o dystiolaeth o’r arbedion o hyn.

 

Croesawodd Llywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad llawn ac argymhellion adolygiad John F McClelland ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddatganiad Polisi Caffael Cymru sy’n nodi’n glir yr arferion caffael a’r camau gweithredu penodol fydd yn ofynnol i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. 

 

Bydd Llywodraeth Cymru, trwy Werth Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, yn parhau i ymgysylltu â sefydliadau iechyd a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i gryfhau cydweithredu. Mae gan Gydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Caffael ran allweddol ar ran y sefydliadau iechyd unigol yn y cydweithrediad hwn.

 

 

Argymhelliad 5. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chyllidebau i'w bodloni ei hun bod yr adnoddau y bydd yn eu rhoi i sefydliadau'r GIG mewn blynyddoedd i ddod yn adlewyrchu'r cynnydd yn y galw am wasanaethau a welwyd yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Ymateb:- Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru’n adolygu ei chyllideb ar gyfer blynyddoedd y dyfodol yn nhermau Iechyd a phortffolios Gweinidogion eraill yn ystod y gwaith o baratoi’r gyllideb derfynol, craffu arni a’i chyhoeddi, bob blwyddyn. Mae’r gwaith paratoi ar gyfer cyllideb 2014/15 wedi dechrau ac fel yn y blynyddoedd blaenorol cynhelir cyfarfodydd dwyochrog rhwng Gweinidogion/trafodaethau Cabinet i drafod pwysau ar wasanaethau’r GIG a materion eraill.  

 

Cyhoeddwyd cyllideb yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant ar gyfer 2013-14 fel rhan o gyhoeddiad cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2012. Mae’n ofynnol i sefydliadau’r GIG baratoi cynlluniau gwasanaeth, gweithlu ac ariannol integredig yn unol â’r adnoddau sydd wedi cael eu dyrannu. Bydd y cynlluniau hyn yn nodi’r pwysau o ran y galw a’r pwysau ariannol y bydd angen mynd i’r afael â hwy.

 

Y drefn arferol yw cyflawni proses o adolygu gofynion cyllidebau Adrannau rhwng ymarferion cyllideb derfynol a bydd hyn yn wir ar gyfer 2013/14.  Bydd cynlluniau’r GIG sy’n adlewyrchu’r profiadau a’r pwysau o ran y galw yn 2012/13, y mae’r Byrddau Iechyd Lleol yn rhoi eu gwedd derfynol arnynt, yn cael eu trafod eto trwy Gyfarfodydd Dwyochrog a thrafodaethau Cabinet er mwyn craffu ar unrhyw newidiadau cyllidebol y bernir y mae eu hangen, trwy’r broses gyllideb atodol yn 2013/14.

 

 

Argymhelliad 6. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod sefydliadau'r GIG yn cael cymaint o fanylion â phosibl am yr arian sydd ar gael cyn dechrau'r flwyddyn ariannol, gan gynnwys cronfeydd wrth gefn a'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn gwneud cais am y fath gyllid.

 

Ymateb:- Derbyn mewn egwyddor

 

Mae Llywodraeth Cymru yn dosbarthu eu dyraniad refeniw blynyddol i'r Byrddau Iechyd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Mae hyn yn nodi faint o gyllid dewisol craidd sydd ar gael i’r Byrddau, ynghyd â gwybodaeth am unrhyw ragdybiaethau allweddol y dylent eu gwneud ynglŷn ag argaeledd arian arall na chafodd ei gynnwys yn y dyraniad cychwynnol. Mae hyn yn cynnwys arian heb ei neilltuo sy’n cael ei gadw’n ôl i’w roi yn ystod y flwyddyn er mwyn cyflawni amcanion penodol. Disgwylir i’r Byrddau ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol o fewn yr amlen ariannu hon.

 

Fel y nodir yn ein hymateb i Argymhelliad 5, bydd Llywodraeth Cymru’n cydweithio gyda sefydliadau’r GIG i fynd i’r afael ag unrhyw heriau ariannol net sy’n deillio o’r cynlluniau hyn. Rhoddir gwybodaeth cyn gynted ag sy’n bosibl am unrhyw arian ychwanegol a all fod ar gael, a’r amodau ar gyfer rhoi'r arian hwnnw.

 

Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r drefn ariannu newydd, rhoddir rhagor o wybodaeth i’r Byrddau am argaeledd arian hyblygrwydd, gan gynnwys defnyddio arian wrth gefn yn ystod y flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys hyblygrwydd dros gylch cynllunio tair blynedd a hefyd hyblygrwydd diwedd blwyddyn tymor byr. Rhoddir gwybod am yr arian sydd ar gael ar gyfer hyblygrwydd cynlluniedig dros gylch tair blynedd i’r Byrddau Iechyd fel rhan o’r gwaith o ddatblygu rhagdybiaethau cynlluniau adnoddau blynyddol yn yr hydref cyn dechrau’r flwyddyn ariannol newydd er mwyn cynorthwyo â chynllunio tymor canolig.

 

 

Argymhelliad 7. Rydym yn argymell, lle y bo'n briodol, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i roi arian gwrthbwyso i fyrddau iechyd lleol fel mesur dros dro i ganiatáu ar gyfer hyblygrwydd ar ddiwedd y flwyddyn. Dylid rhoi'r gorau i drefniadau gwrthbwyso unwaith y bydd ateb deddfwriaethol mwy parhaol i fater hyblygrwydd ar ddiwedd y flwyddyn wedi'i roi ar waith.

 

Ymateb:- Derbyn mewn egwyddor

 

Mae gallu’r GIG i gynllunio a threfnu ei wasanaethau mewn modd hyblyg a chynaliadwy yn hanfodol. O’r herwydd mae gwaith i fynd i’r afael â’r cyfyngiadau ariannol cyfredol a osodir gan y ddeddfwriaeth bresennol yn cael ei wneud fel rhan o’n hymrwymiad i gyflwyno trefn ariannol newydd fel y nodir yn ‘Law yn Llaw at Iechyd’, ein gweledigaeth strategol 5 mlynedd ar gyfer y GIG yng Nghymru, gan weithgor sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol cyllid y GIG a Llywodraeth Cymru.

 

Gan gydnabod y gall gymryd cyfnod sylweddol i roi newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol ar waith, rydym yn ystyried opsiynau y gellir eu gweithredu o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol. Mae’r rhain yn cynnwys atebion yn y tymor hirach (Hyblygrwydd Ariannol Cynlluniedig) ac yn y tymor byrrach (Cronfa Froceriaeth y GIG).

 

Mae’r trefniant Hyblygrwydd Ariannol Cynlluniedig yn cael ei ddatblygu i gynorthwyo â’r cylch cynllunio ac ariannol tymor hirach a bydd yn darparu hyblygrwydd adnoddau (gan ddibynnu ar yr holl adnoddau sydd ar gael) wedi’i gysylltu â chynllun integreiddio mantoledig cymeradwy. Rhagwelir y byddai Byrddau Iechyd Lleol yn gofyn am Hyblygrwydd Ariannol Cynlluniedig lle bo’r Byrddau’n rhagamcanu y byddent yn profi brigau a chafnau ariannol o fewn y cynllun ariannol 3 blynedd mantoledig.

 

Hefyd yn aml mae yna broblemau ariannol penodol yn ystod y flwyddyn a heriau tymor byr na ellir o angenrheidrwydd cynllunio ar eu cyfer na’u rhagweld yn hawdd. O dan yr amgylchiadau hyn cydnabyddir bod angen i drefniadau hyblygrwydd tymor byrrach fodoli. Felly mae trefniant broceriaeth yn ystod y flwyddyn mwy ffurfiol yn cael ei ddatblygu (unwaith eto gan ddibynnu ar yr holl adnoddau sydd ar gael), i fynd i’r afael â’r sefyllfaoedd hynny lle bo amgylchiadau na ragwelwyd yn ei gwneud yn anodd i fyrddau Iechyd fantoli eu cyfrifon a chydymffurfio â’u terfyn adnoddau statudol presennol.

 

Bydd cyflwyno’r trefniadau uchod yn darparu hyblygrwydd ychwanegol yn y tymor canolig, er y cydnabyddir nad yw’n cael gwared ar yr angen i chwilio am atebion tymor hirach, na ellir eu cyflawni ond trwy newid deddfwriaeth sylfaenol.

 

 

Argymhelliad 8. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau'r GIG i sicrhau bod gwybodaeth gyhoeddus gadarn a digon manwl ar gael mewn modd amserol am y costau ariannol a'r manteision sy'n gysylltiedig â newid gwasanaethau'r GIG ochr yn ochr â gwybodaeth am risgiau a manteision clinigol.

 

Ymateb:- Derbyn

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ganllawiau ar gyfer Ymgysylltu ac Ymgynghori ar Newidiadau i Wasanaethau Iechyd ym mis Mawrth 2011, sy’n nodi’r disgwyliadau i sefydliadau’r GIG wrth fwrw ymlaen ag ymgysylltu ac ymgynghori ar newidiadau i wasanaethau. Mae’r rhain yn cynnwys y gofyniad i:

 

·         nodi sail resymegol glir dros newid, a gefnogir gan achos clinigol sy’n dangos buddion newid a pheryglon peidio â newid

·         darparu gwybodaeth berthnasol gan gynnwys gwybodaeth ariannol am newid arfaethedig i alluogi’r Cyngor Iechyd Cymuned i graffu ar y cynnig mewn modd gwybodus.

 

Mae’r canllawiau’n ei gwneud yn glir y dylai ymgynghoriad cyhoeddus:

 

·         esbonio pam mae angen newid a darparu tystiolaeth glir;

·         esbonio canlyniadau newid neu gadw’r sefyllfa bresennol, o ran ansawdd, diogelwch, hygyrchedd ac agosrwydd gwasanaethau

·         rhoi darlun clir o oblygiadau ariannol y gwahanol gynigion.

 

Yn dilyn yr ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori presennol, bydd Llywodraeth Cymru, ar y cyd gyda’r GIG, yn adolygu’r dogfennau ymgynghori a’r adborth er mwyn ystyried a oes angen diweddaru’r canllawiau.

 

 

Argymhelliad 9. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda sefydliadau'r GIG er mwyn ei gwneud yn bosibl i gynnwys staff clinigol wrth wneud penderfyniadau ariannol mewn ffordd gyson.

 

Ymateb:- Derbyn

 

Ers cyhoeddi’r Strategaeth Gwybodaeth Ariannol yn 2005, mae gan Lywodraeth Cymru rôl sydd wedi’i hen sefydlu yn y gwaith o ddatblygu a gwella gwybodaeth ariannol sy’n glinigol berthnasol. Mae hyn yn cynnwys parhau i ariannu a chefnogi Tîm Rhaglen y Strategaeth Gwybodaeth Ariannol sy’n gweithio trwy Grŵp Gwybodaeth Ariannol a Chostio, gyda chydweithwyr o’r GIG, gan gynnwys cynrychiolwyr clinigol. Mae’r Grŵp wedi arwain a chydgysylltu’r gwaith o ddatblygu systemau gwybodaeth ariannol ers cyhoeddi’r Strategaeth Gwybodaeth Ariannol yn 2005. Mae’r gwaith hyd yma wedi cynnwys gwaith parhaus i ddatblygu ffurflenni costio a ffurflen cyllidebu rhaglenni ac mae wedi cael ei gefnogi gan Grŵp Costio Technegol. Bydd y Grŵp yn arwain wrth fwrw ymlaen â’r camau gweithredu a’r argymhellion ar thema Gwybodaeth Ariannol yn Nhrefn Ariannol newydd y GIG.

 

Bellach mae’r holl Fyrddau Iechyd yn gweithredu systemau ariannol sy’n eu galluogi i ganfod costau hyd lefel claf unigol. Mantais y systemau hyn yw eu bod yn rhoi gwybodaeth gyfoethog i’r staff clinigol am oblygiadau eu hymarfer clinigol o ran adnoddau. Mae’r wybodaeth ariannol hon, sy’n glinigol berthnasol ac ar lefel claf unigol, yn floc adeiladu hanfodol wrth ymgysylltu clinigwyr â thema 1000 o Fywydau a Mwy o leihau gwastraff, niwed ac amrywiadau.

 

Er enghraifft, byddent yn gallu cymharu costau llawn triniaeth ar gyfer grŵp o gleifion a dderbyniwyd gydag afiechydon tebyg. Byddent yn gallu gweld sut mae costau triniaeth pob claf unigol yn amrywio yn ôl faint o amser mae yn yr ysbyty, ei drefn gyffuriau, yr amser a dreuliodd yn y theatr llawdriniaethau, neu’r profion diagnostig a gafodd.

 

Bydd y math hwn o ddadansoddiad yn helpu staff cyllid, rheoli a chlinigol i gael trafodaethau mwy ystyrlon ynghylch faint o adnoddau mae eu hangen i ateb y galw ar y gwasanaeth, a’r cyfleodd i arbed arian o ganlyniad i wella effeithlonrwydd clinigol.

 

Mae Cynllunio’n un o gyfrifoldebau’r Bwrdd a thrwy’r Cyfarwyddwyr Meddygol sy’n aelodau o’r Byrddau mae gan glinigwyr ran lawn wrth ddylanwadu ar y gwaith o ddatblygu cynlluniau gwasanaeth ac ansawdd cadarn. Ar gyfer 2013/14 mae Llywodraeth Cymru wedi atgyfnerthu’r newid yn y pwyslais o gynlluniau ariannol i gynlluniau integredig, trwy ganllawiau a thempledi ar gyfer cynllunio gwasanaethau clinigol, gweithlu ac ariannol ehangach, yn ogystal ag adolygu a chyfarfodydd â Phrif Weithredwyr a’u Swyddogion Gweithredol. Yn sylfaen i hyn bydd mesurau cyfannol a threfniadau rheoli perfformiad i ymdrin â’r ystod lawn o wasanaethau sy’n cael eu sicrhau gan Fyrddau Iechyd Lleol integredig.

 

 

Argymhelliad 10. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfleoedd deddfwriaethol i fynd i'r afael ag anhyblygrwydd trefniadau ariannol Byrddau Iechyd dros flynyddoedd ariannol.

 

Ymateb:- Derbyn

 

Fel y nodir yn yr ymateb i argymhelliad  7, mae gwaith wedi dechrau eisoes i gyflwyno hyblygrwydd ariannol ychwanegol i weithrediadau’r GIG, er y cydnabyddir y bydd angen newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn cael effaith fwy cynhwysfawr gan drefniadau hyblygrwydd ariannol. Mae’r Adran yn edrych ar Filiau eraill yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant yn y rhaglen ddeddfwriaethol gyda golwg ar wneud newidiadau cyn diwedd tymor presennol y Cynulliad.

 

 

Argymhelliad 11. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi her gadarn i gyrff y GIG o ran y modd y maent yn cynllunio ac yn cyflawni eu cynlluniau arbed arian, er mwyn sicrhau y canolbwyntir ar gyflawni arbedion cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn, yn hytrach nag ar arbedion anghylchol tua diwedd pob blwyddyn ariannol.

 

 

Ymateb:- Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru’n mynnu bod yr holl Gyrff Iechyd yn paratoi a darparu proffiliau o’u cynlluniau ar gyfer arbedion ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Mae’r rhain yn cael eu diweddaru bob mis. Pan fernir nad yw’r cynlluniau hyn yn gadarn cânt eu herio ac mae’n ofynnol i’r Byrddau Iechyd ailasesu’r cynlluniau a’r proffiliau cyn eu cyflwyno’r mis canlynol.

 

Cydnabyddir bod cyfran yr arbedion yn cynyddu wrth i’r flwyddyn fynd ymlaen. Anogir Cyrff Iechyd i sicrhau eu bod yn dechrau ar eu prosesau cynllunio’n gynharach yn y flwyddyn ariannol flaenorol, ac felly'n sicrhau bod y proffil arbedion wedi’i rannu’n fwy gwastad ar draws y flwyddyn gyfan ac nad ydynt yn dibynnu ar sicrhau arbedion anghylchol yn y misoedd olaf.

 

Ar gyfer 2013/14 mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau’r fframwaith ac amserlen cynllunio i gynnwys canllawiau, templedi a chyflwyniadau drafft cynllunio. Mae’r broses hon yn cynnwys cyfarfodydd Cyfarwyddwyr Gweithredol i adolygu a herio cynlluniau drafft ac i gynorthwyo Cyrff Iechyd i roi eu gwedd derfynol ar gynlluniau integredig mantoledig.

 

 

Argymhelliad 12. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariad i ni, erbyn mis Mehefin 2013, ar y cynnydd y mae wedi'i wneud o ran cyflawni'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn ac yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol.

 

Ymateb:- Derbyn

 

Bydd Llywodraeth Cymru’n darparu diweddariad erbyn diwedd mis Mehefin, er mae angen cydnabod mai dim ond  yn unol ag amserlen hirach y gellir mynd i’r afael â nifer o’r argymhellion.